Skip to content

Sut mae EID yn gweithio

Sut gall systemau adnabod EID eich helpu i wella perfformiad eich praidd

Cyflwyniad i ddefnyddio systemau adnabod EID ar eich fferm.

Mae gwybodaeth ar gael hefyd yn y llyfryn hwn, Cyflwyno Cofnodi EID – Canllaw ymarferol i ddechrau cofnodi EID ar gyfer eich diadell.

Mae systemau adnabod anifeiliaid yn electronig (EID) yn cynnig llawer o fuddion i unrhyw un sy’n ymwneud â thrin defaid, yn enwedig ar ffermydd lle y gall arferion rheoli gael eu gwella’n sylweddol trwy ddefnyddio systemau EID.

Sut mae EID yn gweithio.

Diadell o ddefaid
Diadell o ddefaid

Mae EID yn defnyddio microsglodyn, neu drawsatebwr electronig, sydd wedi’i osod mewn tag, bolws neu fewnblaniad i adnabod anifail fferm. Mae EID mewn anifeiliaid wedi’i seilio ar donnau radio amledd isel neu Adnabod Amledd Radio (RFID). Mae darllenydd yn anfon signal radio sy’n cael ei dderbyn gan y microsglodyn. Mae’r sglodyn yn anfon rhif adnabod unigryw’r anifail yn ôl. Yna, mae’r darllenydd yn trosglwyddo’r rhif unigryw i gyfrifiadur sy’n ei ddefnyddio i storio pa wybodaeth bynnag sydd ei hangen am yr anifail hwnnw.

Mae adnabod EID yn gofyn am fuddsoddiad cychwynnol mewn technoleg ar y fferm. Mewn sefyllfaoedd sylfaenol iawn, mae hyn yn golygu prynu offer a fydd yn darllen y tagiau EID, a bod â mynediad at gyfrifiadur sydd â meddalwedd rheoli fferm syml wedi’i gosod arno. Yna, bydd y feddalwedd hon yn rheoli’r wybodaeth sy’n cael ei chasglu.

Mae cyfrifiaduron ar y rhan fwyaf o ffermydd erbyn hyn. Mae’r math o offer EID sydd ar gael yn amrywio o ddarllenwyr ffon syml iawn i ddarllenwyr llaw a chofnodwyr data, peiriannau pwyso electronig a systemau cytio awtomatig. Bydd yr offer a ddewiswch yn dibynnu ar eich sefyllfa ffermio eich hun a’r math o wybodaeth sydd ei hangen arnoch am y praidd - Gweler Hyfforddiant Rhan 2.

Dau ffermwr yn bwydo defaid
Dau ffermwr yn bwydo defaid

I gael y budd mwyaf, byddai system adnabod EID yn cael ei defnyddio ar y cyd â stoc sydd â gwerthoedd bridio amcangyfrifedig, fel y gellir asesu perfformiad pob anifail yn y praidd.

Mewn unrhyw braidd, gall EID helpu i gynyddu enillion trwy, er enghraifft, reoli a dethol ŵyn yn well ac yn fwy effeithlon. Gall buddsoddi mewn meddalwedd ac offer priodol gynorthwyo ffermwyr i ddewis ac asesu pa ŵyn sy’n perfformio orau o dan wahanol systemau rheoli.

Gellir hwyluso’r broses o wirio pwysau targed pob oen hefyd, gan olygu y gellir dewis ŵyn sy’n gweddu i fanyleb proseswyr. Gall perfformiad ŵyn gael ei olrhain i famogiaid hefyd, i gynorthwyo â rhaglenni bridio ac amlygu’r stoc fwyaf cynhyrchiol.

Yn ogystal, gall EID fod yn fuddiol iawn wrth reoli cynlluniau iechyd y praidd, gan ddarparu hanes iechyd sydd ar gael yn rhwydd ar gyfer defaid unigol. Gall hyn gynnwys:

  • Cofnodi tasgau arferol fel drensio a brechu yn ôl defaid unigol neu grwpiau wrth iddynt gael eu cynnal.
  • Cofnodi a rheoli cyfnodau diddyfnu ar gyfer unrhyw feddyginiaeth a roddir, a chofnodi triniaeth ar gyfer defaid unigol sy’n darparu hanes iechyd sydd ar gael yn rhwydd.
  • Defnyddio cofnodion triniaeth a rhesymau dros driniaeth i nodi problemau a dechrau eu datrys yn gynnar, ac amlygu unrhyw faterion iechyd parhaus neu ailadroddus o fewn defaid unigol.

Mae EID yn cynnig llawer o gyfleoedd. Yr hyn sy’n allweddol er mwyn ei ddefnyddio’n effeithiol yw peidio â’i wneud yn rhy gymhleth a defnyddio’r dechnoleg i’r lefel lle y gallwch weld budd ac elw, y tu hwnt i’r hyn sydd ei angen at ddibenion adnabod syml.