Skip to content

Defnyddio offer EID

Gall ble a sut mae eich offer yn cael ei ddefnyddio effeithio ar ansawdd y darlleniad a gewch. Gall cynllunio a pharatoi arbed cryn dipyn o amser.

ffermwr yn rhoi microsglodyn i ddafad
ffermwr yn rhoi microsglodyn i ddafad
  • Defnyddiwch dagiau a bolysau o ansawdd da i hwyluso darllen gweledol ac electronig.
  • Ystyriwch ddyluniad dyfeisiau EID yn ofalus (e.e. steil, maint, pwysau, hyd y pin) o ran brîd ac oedran eich defaid a’ch trefniadau bwydo, lletya a ffensio.
  • Dilynwch dechnegau tagio/bolysu da. Defnyddiwch y dyfeisiau cywir, yn unol â chyfarwyddiadau’r gweithgynhyrchwr, er mwyn sicrhau cyfraddau cadw ac osgoi problemau lles.
  • Storiwch eich offer darllen ar dymheredd amgylchynol pan na fydd yn cael ei ddefnyddio.
  • Ceisiwch osgoi defnyddio darllenydd ffon a darllenydd panel yn agos i’w gilydd oherwydd fe allent ymyrryd â’i gilydd.
  • Gall ‘sŵn diwydiannol’ effeithio ar ddarllenydd. Mae hyn yn cynnwys motorau trydanol (yn enwedig motorau cyflymder amrywiol), peiriannau sy’n rhedeg a goleuadau fflworoleuol.
Buches o ddefaid yn y farchnad
Buches o ddefaid yn y farchnad
  • Gall darllenydd panel/statig dderbyn darlleniadau o ffynonellau diangen hefyd (fel dyfeisiau eraill, ffobiau allweddi ceir a chŵn sydd â microsglodyn wedi’i osod ynddynt).
  • Gwefrwch fatris yn ddigon hir ar gyfer y gwaith a gynlluniwyd neu cadwch fatri sydd wedi’i wefru’n llawn yn sbâr.
  • Gwnewch yn siwr fod y data cywir yn cael ei gasglu a’i fod yn berthnasol i’ch amcanion rheoli.
  • Neilltuwch ddigon o amser i ddadansoddi’r wybodaeth a chynhyrchu canlyniadau.
Ar gyfer beth rydych chi am ddefnyddio system adnabod EID? Enghreifftiau o’r dewisiadau offer sydd ar gael i chi
Darllenydd ffon ac argraffydd syml Darllenydd ffon, cyfrifiadur personol, argraffydd, meddalwedd sylfaenol Darllenydd llaw (bysellbad rhifol), cyfrifiadur personol, argraffydd, a meddalwedd Darllenydd llaw, teclyn pwyso sydd wedi’i alluogi ar gyfer EID, crât pwyso, cyfrifiadur personol, argraffydd, a meddalwedd
Cynhyrchu rhestr syml o niferoedd defaid Ticked Ticked Ticked Ticked
Cynhyrchu rhestr syml o niferoedd defaid, darllen rhifau adnabod defaid a neilltuo gwybodaeth reoli i grwpiau o anifeiliaid e.e. symudiadau neu driniaeth filfeddygol   Ticked Ticked Ticked
Cynhyrchu rhestr syml o niferoedd defaid, darllen rhifau adnabod defaid a neilltuo gwybodaeth reoli i grwpiau o anifeiliaid yn ogystal â mewnbynnu data am anifeiliaid unigol, cynnal cofnodion praidd, llunio adroddiadau rheoli     Ticked Ticked
Yr holl dasgau uchod yn ogystal â chasglu data’n awtomataidd, llunio adroddiadau rheoli cynhwysfawr ar y praidd, trosglwyddo data o’r swyddfa i’r maes       Ticked
Costau bras* £700 - £1,200 £1,000 - £1,300 £1,200 - £1,400 £5,000 - £6,000
*Mae hyn yn tybio bod gennych chi fynediad at gyfrifiadur ac argraffydd eisoes