- Home
- Adnoddau
- Rheoli Defaid
- Sut mae EID yn gweithio
- Manteision cofnodi EID
Manteision cofnodi EID
Manteision cofnodi EID fel offeryn rheoli i ffermwyr defaid
Mae system adnabod EID yn rhoi cyfle i wella rheolaeth a chynhyrchedd ar y fferm trwy adael i chi gasglu gwybodaeth yn fwy cywir a haws o lawer nag y gallwch trwy gofnodi gwybodaeth ar bapur.
Mae hyn yn golygu y gallwch nodi’n haws y defaid hynny sy’n gwneud y cyfraniad mwyaf at incwm a phroffidioldeb eich fferm, a’r rhai hynny sy’n gostus i chi eu cadw.
Gall system adnabod EID sicrhau gwell proffidioldeb ar gyfer eich busnes defaid trwy:
- Wella’r broses o ddewis stoc ar gyfer bridio.
- Gwella’r broses o ddewis stoc ar gyfer eu lladd.
- Galluogi defnydd mwy effeithiol o feddyginiaethau milfeddygol, gan arwain yn y pen draw at well iechyd yn y praidd.
- Eich galluogi i gyflawni arbedion maint trwy reoli praidd mwy, yn ogystal â’r gallu i asesu perfformiad anifeiliaid unigol.
- Eich galluogi i gofnodi gwybodaeth ychwanegol, er enghraifft perfformiad ŵyn o wahanol rannau o’ch fferm. Gall hyn eich helpu i amlygu tir pori lle mae defaid yn perfformio’n wael. Fe all hefyd helpu eich cynlluniau ailhadu a chynorthwyo i leihau dibyniaeth ar fwydydd anifeiliaid sy’n cael eu prynu.
- Lleihau gwastraff ac arbed arian ar waredu gwastraff.
- Cynnig cyfle i chi rannu gwybodaeth yn haws gyda’ch milfeddygon er mwyn iddynt gael dealltwriaeth well o anghenion iechyd eich praidd.
- Cynnig y potensial i ddefnyddio gwybodaeth i farchnata eich stoc yn well.
Rheoli Defaid